Atgofion Rhieni
Crëwyd 'Atgofion Rhieni' yn dilyn cais gan gwsmer - Catrin Evans (mae'r adran 'adborth' yn gweithio!). Aeth Catrin ati felly i gyfieithu y llyfr gyda chymorth Iolo Roberts.
Tra fy mod yn falch iawn medru cynhyrchu y fersiwn yma o Parents Memories yn y Gymraeg, yn anffodus nid yw gweddill y gyfres ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Ymddiheuriaf hefyd nad wyf yn medru cynnig y gwasanaeth archebu na'r ymholiadau gweinyddol eraill yn Gymraeg chwaith. Wedi dweud hynny, petawn yn derbyn digon o geisiadau am y llyfrau eraill yn y gyfres, pwy a wyr beth all ddigwydd yn y dyfodol.
Gwna'r llyfr hwn anrheg wych i gwpl - yn fodd o'u perswadio nhw i rannu ystod eang o atgofion eu bywydau gyda'i gilydd yn ogystal â gyda'u teuluoedd.
Mae'r cofnod hyfryd yma yn gyfres o gwestiynau am eu plentyndod a'u bywyd fel oedolion ynghyd â chwestiynau am eu hanes fel pâr (e.e sut gwrddom nhw, hanesion eu carwriaeth/priodas, sut a phryd benderfynon nhw gael babi). Mae cyfle hefyd i gofio nôl at eu teimladau y munudau cyntaf hynny y ganwyd eu babi, sut benderfynon nhw ar yr enwau, enwau eraill a drafodwyd a'r teimladau y tro cyntaf ddalion nhw y babi newydd - a lot, lot mwy!
Fel y ceir yn y gyfres gyfan, cewch eich sbarduno gan gwestiynau syml gyda digon o le i ymhelaethu lle bo angen neu i gynnwys lluniau neu atgofion megis olion cyntaf y dwylo a'r traed neu ddarn bach o wallt.
Cewch oriau hapus iawn yn olrhain yr atebion i'r cwestiynau.
Yna, ar ôl i chi ei gwblhau mae'n gwneud anrheg berffaith iddynt basio ymlaen i'w plant, ei dychwelyd atoch chi neu i'w gadw yn y teulu...
Welsh Parents Memories - only
£12.49 - CLICK
TO BUY
Welsh Parents Memories complete Gift Set - only £15.99 - CLICK TO BUY
New! Welsh Parents Memories with Personalised Cover
and free gift box and pen - only £24.99.
- CLICK TO BUY
Don't forget our Special Offers. |